Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (130) |
1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 1 i 9 ac 11 i 15. Trosglwyddwyd cwestiwn 10 i’w ateb yn ysgrifenedig.
2. Cwestiynau i’r Gweinidog Tai ac Adfywio
Dechreuodd yr eitem am 14.16
Gofynnwyd cwestiynau 1 i 3, 5 i 8, 10 i 12 a 14 i 15. Trosglwyddwyd cwestiynau 4, 9 a 13 i’w hateb yn ysgrifenedig.
Cynnig Gweithdrefnol
Cafwyd cynnig trefniadol gan Antoinette Sandbach yn unol â Rheol Sefydlog 12.32 i ohirio’r ddadl fer.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
3. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ei ymchwiliad undydd i farw-enedigaethau yng Nghymru
Dechreuodd yr eitem am 14.53
NDM5231 Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ei ymchwiliad undydd i farw-enedigaethau yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Chwefror 2013.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
4. Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar ei ymchwiliad i bolisi Llywodraeth Cymru ar yr amgylchedd hanesyddol
Dechreuodd yr eitem am 15.44
NDM5232 Christine Chapman (Cwm Cynon)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar Bolisi Amgylchedd Hanesyddol Llywodraeth Cymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Mawrth 2013.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Dechreuodd yr eitem am 16.26
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5233 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y manteision bod Cymru yn rhan o’r Deyrnas Unedig; a
2. Yn nodi pwysigrwydd sicrhau dyfodol Cymru o fewn Teyrnas Unedig gref sy'n datblygu.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
14 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 17.25
6. Dadl Fer - Gohiriwyd
NDM5234 Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Gwybod am y Gwenyn
Rôl gwyddoniaeth o ran gwarchod iechyd gwenyn fel peillwyr.
Daeth y cyfarfod i ben am 17:26
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 14 Mai 2013